Ydach chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc Gwynedd? Yna dewch i weithio efo GISDA.
Swyddi Diweddaraf
Gwelwch isod am swyddi gwag.
Gweithiwr Cefnogol Caffi
Lleoliad:
Caernarfon
Dyddiad cau:
16/10/2026 12:00 YH
Prif bwrpas y swydd yw cynorthywo Arweinydd a Swyddog Hyfforddiant y Caffi yn ystod oriau agor mewn amgylchedd diogel, croesawgar ac anffurfiol. Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol drwy groesawu ymwelwyr, paratoi a gweini bwyd a diod o safon uchel, a sicrhau bod amgylchedd y caffi yn lân, yn ddiogel ac yn ddeniadol bob amser. Cefnogi pobl ifanc sydd yn gweithio yn y caffi i ddatblygu sgiliau gweini bwyd, delio gyda chwsmeriaid a chynnal a chadw’r caffi’n lân a diogel.
Yn gyfrifol i:
Arweinydd Caffi
Adran:
Caffi GISDA
Cyflog:
£25,781-£27,089
Oriau:
20
Prif Ddyletswyddau
- Cefnogi’r Arweinydd a’r Swyddog Hyfforddiant i redeg y caffi yn llwyddiannus ac effeithiol o ddydd i ddydd.
- Croesawu cwsmeriaid yn gyfeillgar, cymryd archebion yn gywir, ac ateb unrhyw gwestiynau am y fwydlen (gan gynnwys alergeddau).
- Paratoi diodydd poeth ac oer (fel te a choffi barista) a gweini bwydydd syml fel brechdanau, cacennau a byrbrydau yn unol â safonau'r caffi.
- Gweithredu'r til, prosesu taliadau arian parod a cherdyn, ac atgyweirio newid yn gywir.
- Cadw at reolau hylendid bwyd llym.
- Glanhau byrddau, y cownter, offer y gegin, ac ardal y cwsmeriaid yn rheolaidd.
- Helpu i lenwi silffoedd, arddangos nwyddau mewn ffordd ddeniadol, a rhoi gwybod i'r rheolwr pan fydd stoc yn rhedeg yn isel.
- Cefnogi’r Arweinydd a’r Swyddog Hyfforddiant i ddatblygu'r Caffi yn gyrchfan groesawgar gyda croeso cynnes a gofal cwsmer ardderchog er mwyn sicrhau fod y busnes yn gynaliadwy a hunangynhaliol.
- Cynorthwyo’r Arweinydd a’r Swyddog Hyfforddiant a chydweithio i hyfforddi gweithlu cyflogedig a gwirfoddol i gweini, coginio, gweithio yn y gegin a rhedeg gwasanaeth y Caffi yn llyfn.
Gweithiwr Ymgysylltu Cyflogaeth
Lleoliad:
Caernarfon
Dyddiad cau:
16/10/2026 12:00 YH
Darparu cefnogaeth bwrpasol, ymarferol a chyson i bobl ifanc er mwyn eu galluogi i oresgyn rhwystrau, datblygu eu hyder a’u sgiliau, a symud ymlaen tuag at brofiadau gwirfoddoli a chyflogaeth gynaliadwy. Bydd y rôl yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc, Hyfforddwyr Gwaith, Gweithwyr Allweddol GISDA a phartneriaid perthnasol i sicrhau bod pob unigolyn yn cael y gefnogaeth briodol i gyflawni eu nodau.
Bydd y swydd hefyd yn gyfrifol am adolygu a monitro anghenion, risgiau a chynlluniau cefnogi pobl ifanc, darparu cefnogaeth gyda chyflogadwyedd, budd-daliadau, gwasanaethau digidol, a chynnal cofnodion cywir a chyfredol. Bydd y rôl yn sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng gwasanaethau, yn nodi ac yn cyfeirio pobl ifanc at gyfleoedd a gwasanaethau priodol, ac yn monitro cynnydd, canlyniadau ac effaith y gefnogaeth a ddarperir.
Cyflog:
£26,435.76 - £27,089.92
Oriau:
37
Trysorydd Bwrdd Rheoli
Lleoliad:
Caernarfon
Dyddiad cau:
18/09/2026 12:00 YH
Mae GISDA yn chwilio am Drysorydd newydd i’n Bwrdd Rheoli - cyfle unigryw i ddefnyddio eich sgiliau ariannol i gefnogi sefydliad sydd wedi bod yn newid bywydau pobl ifanc ers dros 40 mlynedd.
Fel Trysorydd y Bwrdd, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i sicrhau cynaliadwyedd ariannol GISDA, cefnogi llywodraethiant cryf, a helpu i siapio dyfodol gwasanaethau i bobl ifanc ledled Gwynedd.