Academi Cyfleon

Croeso i Academi Cyfleon, prosiect sy'n newid bywydau ac sy'n cynnig cymorth hanfodol i bobl ifanc gan eu helpu i ennill y sgiliau, hyder a chymhwysterau sydd eu hangen arnynt i gylfawni eu nodau mewn cyflogaeth a byw'n annibynnol.

Mae ein canolfannau galw heibio yng Nghaernarfon, Blaenau Ffestiniog a Phwllheli ar agor i unrhyw unigolyn ifanc sy'n 16-25 oed sydd angen cyngor, cymorth neu sydd efo cwestiynau.

Mae ein rhaglen yn cynnig amrwyiaeth o wasanaethau i ddiwallu anghenion unigryw pob unigolyn. Rydym yn cynnog cymorth cyflogaeth therapiwtig, gweithgareddau i adeiladu hyder a sgiliau cyflogaeth hanfodol fel creu CV, technegau cyfweld a dysgu sut i ymddwyn yn y gweithle. Rydym hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau byw'n annibynnol gan gynnwys rheoli amser, coginio, glanhau a defnyddio cludiant cyhoeddus.

Mae ein cyfleoedd profiad gwaith a gwirfoddoli yn cynnig profiad gwerthfawr i bobl ifanc o'r byd gwaith, tra bod ein hyfforddiant a'n achrediadau yn gwella eu cyflogadwyedd a'u cymwysterau.

Nid yw ein cymorth yn dod i ben yno. Rydym yn cynnig cymorth personol i helpu pobl ifanc i drosglwyddo i swyddi, addysg neu hyfforddiant ac yn parhau i roi cymorth o fewn y meysydd hyn. Yn ogystal, rydym yn cynnig gwasanaethau eraill yn unol â'r anghenion unigol.

Yn Academi Cyfleon, credwn mewn rhoi'r gallu i bobl ifanc gymryd rheolaeth o'u dyfodol. Mae ein rhaglen wedi'i chynllunio i'ch helpu i greu cynllun clir sy'n eich cryfhau â'r sgiliau, hyder a chymwysterau sydd eu hangen arnoch i symud o dderbyn cymorth i fyw'n annibynnol a chael cyflogaeth.

Rydym yn deall bod taith pawb yn unigryw, a dyna pam mae ein dull wedi'i deilwra i'ch anghenion a'ch nodau unigol. Trwy ein rhaglen, byddwch yn cael mynediad at amrywiaeth o adnoddau a chymorth, gan gynnwys mentora un-i-un, gweithdai, a sesiynau hyfforddi. Os rydych yn edrych i ennill sgiliau newydd, rhoi hwb i'ch hyder, neu ennill cymwysterau proffesiynol, rydym yma i'ch helpu bob cam o'r ffordd.

Bydd ein tîm o weithwyr proffesiynol profiadol yn gweithio'n agos gyda chi i greu cynllun personol sy'n mynd i'r afael â'ch anghenion a'ch heriau penodol. Rydyn ni'n credu, gyda'r gefnogaeth a'r arweiniad cywir, y gallwch chi gyflawni'ch nodau ac adeiladu'r dyfodol rydych chi wedi breuddwydio amdano erioed. Dewch i ymuno â ni yn Academi Cyfleon, a gadewch i ni eich helpu i ddatgloi eich potensial llawn!