EIN AMCAN:

CEFNOGAETH A CHYFLEOEDD I BOBL IFANC DIGARTREF A BREGUS DRWY DDARPARU:

› llety a gwasanaethau cefnogol;

› gweithgareddau creadigol ac artistig;

› gweithgareddau therapiwtig, hamdden ac addysgiadol; › cyngor a gwybodaeth;

› hyfforddiant, cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth; i roi cymorth iddynt datblygu hyder, gwydnwch, sgiliau byw yn annibynnol, sgiliau cyflogaeth a chyfranogi yn llawn mewn cymdeithas yn rhydd o unrhyw anfantais.

I GYFLAWNI HYN BYDDWN YN SICRHAU:

› llywodraethiant o ansawdd uchel;

› diwylliant lle bydd staff yn cael eu cefnogi a gwerthfawrogi am eu gwaith;

› adnoddau i flaenoriaethu ‘Model Fi’ sef dull o weithio’n effeithiol gyda phobl ifanc. Bydd llywodraethiant a diwylliant yn cael eu monitro’n flynyddol fel rhan o adroddiad blynyddol y cwmni.


BYDDWN YN GWNEUD HYNNY DRWY FUDDSODDI AC YMRWYMO I GYFLAWNI’R PUM NOD STRATEGOL A’I NODIR.

EIN NODAU STRATEGOL:

LLAIS

GISDA yn sicrhau bod llais pobl ifanc digartref a bregus yn ganolog i bopeth.

LLETY

GISDA yn gwmni sydd yn ymateb i anghenion llety a chefnogaeth pobl ifanc digartref a bregus

CEFNOGAETH A CHYFLEOEDD

GISDA yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc digartref a bregus drwy weithgareddau creadigol, artistig, therapiwtig, hamdden ac addysgiadol.

CYMUNED

GISDA yn gwmni sydd yn cyfranogi a chwarae ei ran yn y gymuned er budd pobl ifanc digartref a bregus.

CYNALIADWYEDD

GISDA yn datblygu cynlluniau, mentrau cymdeithasol a meithrin partneriaethau i sicrhau cynaliadwyedd y cwmni.