Hybiau Pobl Ifanc

Mae GISDA efo Hybiau Pobl Ifanc yng Nghaernarfon, Bangor, Blaenau Ffestiniog a Phwllheli 

Mae Hybiau GISDA yn 'one stop shop' i bobl ifanc cael mynediad hygyrch i gefnogaeth a chyfleoedd. Mae pob gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac mae gennym bolisi drws agored lle nad oes angen apwyntiad. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys

  • Cefnogaeth digartrefedd a chymorth tai
  • Cefnogaeth LHDTC+
  • Academi Cyfleon am gefnogaeth gwaith, addysg ac hyfforddiant
  • Gweithgareddau creadigol therapiwtig 
  • Cefnogaeth i bobl ifanc profiadol o ofal
  • Cefnogaeth i rieni ifanc
  • Cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant
  • Bwrdd Llais Pobl ifanc wythnosol

Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth galw heibio sy'n ymateb i bobl ifanc mewn argyfwng i dderbyn cyngor a chefnogaeth gyda

  • tai a digartrefedd
  • incwm a budd-daliadau
  • cysylltu gyda sefydliadau eraill
  • iechyd meddwl a llesiant corfforol
  • pecynnau iechyd rhyw
  • addysg a hyfforddiant
  • pecynnau bwyd a thalebau banciau bwyd
  • cerdiau sim
  • dillad
  • talebau ynni
  • cyllid llety argyfwng
  • grantiau 'symud ymlaen'
  • grantiau gwaith i helpu efo dillad, adnoddau, trafnidiaeth a gofal plant