Prosiect Ieuenctid LHDTC+

Cutout logo LGBT

Wedi'i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae ein Prosiect Ieuenctid LHDT+ yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc sy'n uniaethu fel LHDT+( Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, a Thraws)

Drwy gynnig man diogel iddynt fynegi eu hunain a ffurfio cysylltiadau, mae ein prosiect LHDTC+ yn grymuso pobl ifanc i ymfalchïo yn eu hunaniaeth. Drwy ddulliau addysgol mae’r prosiect yn hyrwyddo dealltwriaeth a chynhwysiad o fewn cymunedau ehangach.

MANNAU DIOGEL ER MWYN MYNEGI DY HUN

Wrth wraidd y prosiect mae clybiau wythnosol croesawgar a dynamig lle gall aelodau ddod ynghyd a mynegi eu hunain heb orfod poeni. Boed drwy rannu diddordebau, mwynhau sgyrsiau anffurfiol neu gymryd rhan mewn gweithgareddau, mae’r clybiau yn cynnig awyrgylch cefnogol a chynhwysol ble mae pawb yn cael eu cynnwys a’u dathlu.

Ymunwch â ni yn un o'n clybiau wythnosol, Rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod chi!

Caernarfon: Pob dydd Mawrth 6pm-8pm

Blaenau Ffestiniog: Pob dydd Mercher 5:30pm-7:30pm

Pwllheli: Pob dydd Iau 5:30pm-7:30pm

TU HWNT I FURIAU’R CLWB

Hyfforddiant Achrededig a Sesiynau Codi Ymwybyddiaeth: Rydym yn cynnig sesiynau ar destunau LHDTC+ i ysgolion, colegau a mudiadau eraill sydd yn hyrwyddo lles pobl ifanc. Mae’r gweithdai rhyngweithiol yma yn annog pobl i wneud cysylltiadau newydd ac i gyfrannu at gymunedau cynhwysol drwy ddysgu am brofiadau unigolion sy’n rhan o’r gymuned LHDTC+.

Cyfleoedd i Wirfoddoli: Mae ‘na lu o gyfleoedd i wirfoddoli gyda’r prosiect, a chael cyfle i ddysgu sgiliau newydd ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau. Oes gen ti ddiddordeb? Cysyllta i weld sut fedri di wneud gwahaniaeth!

Lgbt cym

Cyfrannu

£10
£15
£25
Cyfrannu