🎄 #BreuddwydioAm… y Nadolig hwn gyda GISDA
Mae’r Nadolig yn gyfnod o wên, teulu a chynhesrwydd. Ond i rai pobl ifanc, mae’n gyfnod anodd – cyfnod o ansicrwydd, unigrwydd ac ofn. Tra bod llawer ohonom yn breuddwydio am anrhegion, amser gyda’n teuluoedd, neu swper Nadolig cynnes… mae rhai pobl ifanc ledled Gwynedd yn breuddwydio am rywbeth hollol wahanol.
👉 Lle diogel i aros.
👉 Pryd cynnes i’w fwyta.
👉 Cyfle i adeiladu dyfodol gwell.