Ydach chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc Gwynedd? Yna dewch i weithio efo GISDA.
Swyddi Diweddaraf
Gwelwch isod am swyddi gwag.
Rheolwr Cyllid Prosiectau
Lleoliad:
Caernarfon
Dyddiad cau:
14/07/2025 12:00 YH
Bydd y Rheolwr Cyllid Prosiectau’n cydweithio’n agos â’r Rheolwr Cyllid Adnoddau i sicrhau rheolaeth ariannol gadarn ar draws y sefydliad, gan rannu gwybodaeth a chyd-gysylltu gwaith monitro cyllidebol, cynllunio strategol ac adrodd ariannol gyda phwyslais ar ddarparu cyllidebau manwl ac adroddiadau ariannol cyson ar draws holl brosiectau’r elusen. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau defnydd effeithiol o adnoddau, cydymffurfiad statudol, a chefnogaeth ariannol gadarn i’r uwch dîm rheoli a rheolwyr prosiectau.
Cyflog:
B5 £35,189 - £40,788 (pro rata)
Oriau:
22.5 (cytundeb parhaol)