Rhoi trwy’r gyflogres

Gyda’r arian yn cael ei dynnu cyn treth, mae pob un cyfraniad yn mynd ymhellach – gan ychwanegu at yr ymdeimlad boddhaus hwnnw o helpu GISDA drwy’r gweithle.

Beth yw Rhoi drwy'r Gyflogres?

Mae Rhoi drwy’r Gyflogres yn galluogi gweithwyr i gyfrannu’n uniongyrchol o’u cyflog, gan ei wneud yn un o’r ffyrdd hawsaf a mwyaf treth-effeithlon i gefnogi GISDA. Cymerir eich rhodd o'ch cyflog ar ôl Yswiriant Gwladol ond cyn treth, gan sicrhau ein bod yn derbyn mwy heb unrhyw gost ychwanegol i chi.

Mae’r arian sydd wedi ei dynnu yn cael ei ddanfon at Asiantaeth sydd wedi ei chymeradwyo gan Gyllid y Wlad, megis y Charities Aid Foundation, ac maent hwy yn gwneud y gweddill – danfon yr arian sydd i’w gyfrannu atom ni.

Faint Fydda i'n ei Dalu?

Band Treth 20%:

  • Cyfrannwch £5 y mis, talwch £4
  • Cyfrannwch £10 y mis, talwch £8
  • Cyfrannwch £15 y mis, talwch £12

Band Treth 40%:

  • Cyfrannwch £5 y mis, talwch £3
  • Cyfrannwch £10 y mis, talwch £6
  • Cyfrannwch £15 y mis, talwch £9

Mae modd i chi ganfod mwy o wybodaeth am Dalu trwy’r Gyflogres a’r asiantaethau sydd wedi eu cymeradwyo ar wefan HMRC.

Fel arall, ewch yn syth i wefan y Charities Aid Foundation (CAF) am fwy o wybodaeth am eu cynllun ‘Give As You Earn’.