Swyddi Diweddaraf

Ydach chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc Gwynedd? Yna dewch i weithio efo GISDA.

Gwelwch isod am swyddi gwag.

Pennaeth Cyllid

Lleoliad:
Caernarfon

Dyddiad cau:
01/09/2026 12:00 YH

Cydweithio ochr yn ochr â Phrif Weithredwr GISDA i sicrhau bod holl gynlluniau’r cwmni 
yn hyfyw a chynaliadwy. Disgwylir hefyd i ddeilydd y swydd ofalu bod holl brosesau cyllidol y cwmni yn 
gweithredu yn gyfreithiol ac yn cydymffurfio gyda rheoliadau cyllid

Cyflog:
B6 £43,155 i £51,428

Trysorydd Bwrdd Rheoli

Lleoliad:
Caernarfon

Dyddiad cau:
28/07/2026 12:00 YH

Mae GISDA yn chwilio am Drysorydd newydd i’n Bwrdd Rheoli - cyfle unigryw i ddefnyddio eich sgiliau ariannol i gefnogi sefydliad sydd wedi bod yn newid bywydau pobl ifanc ers dros 40 mlynedd.


Fel Trysorydd y Bwrdd, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i sicrhau cynaliadwyedd ariannol GISDA, cefnogi llywodraethiant cryf, a helpu i siapio dyfodol gwasanaethau i bobl ifanc ledled Gwynedd.
 

Gweithiwr Nos/Cysgu I Mewn

Lleoliad:
Blaenau Ffestiniog

Dyletswyddau gwaith nos a chysgu i mewn yn hosteli GISDA yn unol ag amserlen rota fel rhan o’n gwasanaeth Cymorth Tai i bobl ifanc yng Ngwynedd.

Mae rhain yn shifftiau achlysurol. Mae'r shifft yn dechrau o 6yp tan 12yb gyda cyfradd tal o £12.78 yr awr, ac yna cysgu i mewn o 12yb tan 7yb gyda lwfan cysgu mewn o:

£40 y noson yn ystod yr wythnos (Llun i Iau)
£50 y noson ar y penwythnos (Gwener i Sul)
£60 y noson gŵyl y banc

Yn gyfrifol i:
Arweinydd Tim Gogledd

Cyflog:
£12.78 per hour for evening shift + sleep in allowance

Oriau:
Achlysurol