Bwrdd GISDA

Ydach chi’n angerddol am wneud gwahaniaeth? Ydach chi’n credu bod bob person ifanc yn haeddu cartref diogel a’r cyfle i adeiladu dyfodol disglair?

Pam ymuno efo Bwrdd Rheoli GISDA?

Fel ymddiriedolwr, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth lunio dyfodol GISDA. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm angerddol sy'n ymroddedig i gefnogi pobl ifanc a dylanwadu ar newid go iawn yn ein cymunedau. Mae ymddiriedolwyr yn dod â safbwyntiau a sgiliau amrywiol sy'n ein helpu i aros yn gryf, yn gynaliadwy, ac yn driw i'n gweledigaeth.

Beth mae Aelod Bwrdd yn ei wneud?

Mae ein Bwrdd Rheoli yn

  • darparu cyfeiriad strategol ac yn sicrhau llywodraethu cryf
  • goruchwylio cyllid a chynaliadwydd hirdymor yr elusen
  • cefnogi a herio’r tîm rheoli i gyflawni’r canlyniadau gorau i bobl ifanc
  • gweithredu fel llysgenhadon dros gweledigaeth a gwerthoedd GISDA

Pwy rydym yn chwilio amdanynt?

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir — yn enwedig y rhai sy'n rhannu ein hymrwymiad i gydraddoldeb, cynhwysiant a grymuso pobl ifanc.

Nid oes angen profiad blaenorol fel ymddiriedolwr arnoch; byddwn yn darparu cefnogaeth a chyfnod sefydlu. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan unigolion sydd â phrofiad mewn

  • cyllid
  • digartrefedd, gwaith ieuenctid neu gofal cymdeithasol
  • cyfathrebu, cyfryngau digidol neu technoleg

Beth yw’r budd i chi?

Mae dod yn Aelod Bwrdd GISDA yn ffordd gwych i:

  • wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc yng Ngwynedd
  • datblygu sgiliau arweinyddiaeth a strategol
  • gweithio gyda phobl sy’n rhannu eich angerdd dros gyfiawnder cymdeithasol a lles cymunedol

Efo diddordeb?

Os hoffech ddysgu mwy am ddod yn ymddiriedolwr, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Ebostiwch gisda@gisda.co.uk i gychwyn sgwrs a chael mwy o wybodaeth.

Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod bob person ifanc yn cael y cyfle i ffynnu