Rydym mor falch cael ein enwebu ar gyfer wobr "Y Gymraeg mewn gwaith ieuenctid" yn Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2022, am noson wych yn dathlu'r holl waith anhygoel sy'n digwydd ar led Cymru gyda phobl ifanc neithiwr. Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr.
Senedd Ieuenctid Cymru
Dros y penwythnos teithiodd Keira lawr i Gaerdydd i gynrhychioli GISDA yn Senedd Cymru Cyflwynodd araith hynod o bwysig ar argraff yr argyfwng costau byw ar iechyd meddwl pobl ifanc ac hefyd cyflwyno canfyddiadau’r adroddiad iechyd meddwl a gafodd ei gynnal ar draws Cymru.
Llongyfarchiadau mawr Keira. Roeddet ti'n wych! 👏👏
Partneriaeth Atal Digartrefedd Pobl Ifanc Gwynedd
“Dylai gwasanaethau weithio gyda’i gilydd”
Mae llais yn un o nodau strategol GISDA ac rydym yn gweithio i sicrhau bod llais pobl ifanc yn ganolog i’n gwaith, yn cael ei glywed ac yn gyd gynhyrchu syniadau newydd!
Sefydlwyd y Bwrdd Pobl Ifanc yn 2021, i sicrhau fod lleisiau’r bobl ifanc yn rhan ganolog o’r gwasanaeth maent yn ei dderbyn ac i greu cyfleon iddynt feithrin eu hunan hyder trwy fynegi eu hunain am eu profiadau, y gymuned a dysgu mwy am wleidyddiaeth leol a chenedlaethol.
Yr hydref hwn mae’r bwrdd wedi bod yn rhan fawr o ffurfio Cais Loteri, sef Partneriaeth Atal Digartrefedd Pobl Ifanc Gwynedd. Nod y prosiect yw drwy cyd-weithio gyda nifer eang o fudiadau o wahanol sectorau byddwn yn medru creu cynllun tymor hir er mwyn geisio datrys yr heriau a’r rhesymau dros ddigartrefedd gan adnabod pam bod nifer o bobl ifanc yn colli eu cartref yng Ngwynedd.
I sicrhau fod llais pobl ifanc yn ganolog i waith y bartneriaeth, gwahoddwyd Laura Sorvala, recordydd graffeg a darlunio, i gymryd rhan yn y Bwrdd Pobl Ifanc i greu cynrychiolaeth weledol o straeon a syniadau’r bobl ifanc ar draws yr holl wasanaeth cefnogaeth sy’n rhan allweddol o’u siwrne tuag at annibyniaeth. Lleisiodd y bobl ifanc eu barn a’u teimladau ar hyn sydd angen arnynt fwyaf gan y gwasanaethau.
Lleisiodd y bobl ifanc y pwysigrwydd o fudiadau yn cyfathrebu a chyd-weithio, dywedodd un person ifanc:
“Dylai gwasanaethau weithio gyda’i gilydd oherwydd gall pob un ohonynt ddod at ei gilydd gyda gwahanol syniadau a gwrando ar ei gilydd.”
Mi fydd y darn a gweledol hwn gan Laura yn allweddol at ddatblygu llwybr prosiect Partneriaeth Atal Digartrefedd Pobl Ifanc Gwynedd drwy sicrhau bod lleisiau, anghenion a gweledigaeth ein pobl ifanc yn cael eu clywed.
Ymweliad Laura Sorvala a'r Bwrdd Pobl Ifanc
Cafodd Bwrdd Pobl Ifanc GISDA gyfarfod cyffrous iawn yr wythnos diwethaf gyda’r gwestai arbennig Laura Sorvala. Recordydd graffeg a darlunio yw Laura sy’n troi syniadau allweddol yn ddarluniau ysbrydoledig.
Gwahoddwyd Laura i gymryd rhan yn y Bwrdd i greu cynrychiolaeth weledol o straeon a syniadau’r bobl ifanc ar draws yr holl wasanaethau cefnogaeth sy’n rhan allweddol o’u siwrne tuag at annibyniaeth. Lleisiodd y bobl ifanc eu barn a’u teimladau ar yr hyn sydd angen arnynt fwyaf gan y gwasanaethau a dychmygu sut fyddai’r canlyniadau mwyaf delfrydol yn edrych a’n teimlo iddynt.
Rhan allweddol o wireddu’r weledigaeth hon yw’r gofod aml-asiantaeth sydd wrthi’n cael ei ddatblygu gan GISDA sef ‘Lle Da’
Mi fydd y darn gweledol hwn a grëwyd gan Laura yn cyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad a llwybr y prosiect Partneriaeth Atal Digartrefedd Pobl Ifanc Gwynedd drwy sicrhau bod lleisiau, anghenion a gweledigaeth ein pobl ifanc yn ganolog i’r gwaith. Dysgwch mwy am Partneriaeth Atal Digartrefedd Pobl Ifanc Gwynedd
Partneriaeth Atal Digartrefedd Pobl Ifanc Gwynedd
Rydym wedi bod yn hynod ffodus o dderbyn arian gan y Loteri Genedlaethol. Buddsoddiad sy’n galluogi GISDA i barhau cefnogi pobl ifanc ein cymuned drwy weithio mewn partneriaeth gyda mudiadau gwahanol i ddatblygu cynllun sy’n mynd i’r afael a thaclo digartrefedd ymysg pobl ifanc Gwynedd.
Drwy gyd-weithio gyda mudiadau lleol byddwn yn cryfhau ar ein rhwydwaith o bartneriaethau, drwy ehangu i gynnwys y sector breifat a mudiadau arloesol. Mi fydd y rhwydwaith o bartneriaid yn cynnwys: GISDA Cyf, Cyngor Gwynedd, Cymdeithas dai ADRA, Fedra’i Betsi Cadwaladr, M-Sparc, Arloesi Gwynedd Wledig, Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru a Dafydd Hardy, ac yn cyd-weithio i geisio datrys yr heriau all arwain at ddigartrefedd yng Ngwynedd.
Mi fydd pobl ifanc Gwynedd yn ganolog i’r gwaith, bydd eu lleisiau yn cael eu clywed mewn trafodaethau, cyfarfodydd a phenderfyniadau ar hyd y daith.
Mae’r prosiect hwn yn un hynod o gyffrous gan dyma’r tro cyntaf i’r bartneriaeth yma weithio gyda'u gilydd! Nid oes fforwm traws sector fel hyn ble gall mudiadau rannu profiadau, arbenigedd a syniadau ar atal digartrefedd yn y maes pobl ifanc. Mae’r bartneriaeth yn teimlo’n angerddol dros daclo digartrefedd ac yn uchelgeisiol y gallwn ddatblygu cynllun cryf rhyngom.
Haf o Hwyl GISDA
Nod menter Haf o Hwyl yw cefnogi'r lles emosiynol, cymdeithasol a chorfforol pob plentyn a phobl ifanc. Haf hwn roeddem yn lwcus iawn o ennill £10,000 ar gyfer gweithgareddau i bobl ifanc. Yn ystod cyfnod ein cyllid Haf o Hwyl mynychodd 117 person ifanc mewn 8 gweithgaredd- Alton Towers, Amgueddfa'r Beatles ac Amgueddfa Gerddoriaeth Brydeinig yn Lerpwl a llawer mwy.
Rhoddodd y profiad gyfle i'r bobl ifanc gwrdd â phobl newydd, cyfathrebu ag eraill, defnyddio trafnidiaeth, datblygu sgiliau teithio gan hefyd dod ag ychydig o hwyl i'w cyfnod dros yr haf.
"Roeddwn i mor nerfus am fynd ar y reidiau ond mor falch fy mod wedi gwthio fy hun i fynd arnynt gan nad wyf yn gwybod pryd y byddwn yn cael y cyfle eto! Roedd yn gymaint o hwyl ac yn falch fy mod wedi cael gwneud fy mhethau fy hun ar gyflymder ei hun. - Person Ifanc a fynychodd yn nhrip i Alton Towers