Fel rhan o ddathliadau GISDA 40, cynhaliwyd Cynhadledd Gwasanaethau Pobl Ifanc yn ddiweddar – digwyddiad a oedd yn ysbrydoli, yn llawn egni ac yn arddangos y gorau o’r hyn sy’n bosibl pan mae sefydliadau, gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc yn dod at ei gilydd.
Cynhadledd Gwasanaethau Pobl Ifanc
21/07/2025

Roedd y diwrnod wedi’i drefnu’n fanwl, gyda lleoliad hyfryd - y Galeri, tywydd braf, ac ymdeimlad cryf o gymuned, cydweithio a balchder. Roedd brand GISDA yn amlwg ym mhob agwedd o’r digwyddiad - yn adlewyrchu’n glir ein gwerthoedd ac ymrwymiad at bobl ifanc.
Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd y gornel greadigol a baratowyd gan griw talentog Creadigol GISDA. Roedd yma gasgliad o ysgrifau byrion gan pobl sydd wedi cael cefnogaeth gan GISDA dros y 40 mlynedd diwethaf, gan rhannu atgofion pwerus am eu hamser gyda GISDA – arddangosfa emosiynol ac ysbrydoledig.

Cynhaliwyd gweithdai ‘breakout’ amrywiol ar draws adeilad Galeri, gyda phob ystafell yn cael ei ddefnyddio'n llawn. Ymhlith y gweithdai roedd:
- Cyflwyniad i waith GISDA
- Panel ariannu gyda chynrychiolwyr o Plant Mewn Angen, WCVA, a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
- Gweithdy gan Frân Wen
- Gweithdy gan Adran Gwaith Ieuenctid Gwynedd - Cyngor Gwynedd
- Gweithdy gan Bill Rowlands, End Youth Homelessness Cymru
Cafwyd adborth cadarnhaol iawn gan fynychwyr am safon a phŵer y sesiynau. Rydym yn ddiolchgar i bawb a fu’n rhan o'u cyflwyno – am eu hangerdd, eu mewnwelediad a'u hannogiad.

Siaradwyr a Gwestai Arbennig
Croesawyd nifer o siaradwyr arbennig yn ystod y dydd:
- Sian Tomos, Prif Weithredwr GISDA
- Bill Rowlands, End Youth Homelessness Cymru
- Iwan Trefor Jones, Cymdeithas Tai Adra
- Lewis Williams ac Ann Owen-Williams, Senedd Ieuenctid Cymru
- Y Gwir Anrhydeddus Liz Saville Roberts AS
- Cynghorydd Menna Trenholme, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd
- Anya Sherlock, GISDA
- Zack Robinson, GISDA
I gloi’r diwrnod, cawsom y fraint o groesawu Dafydd Iwan, a roddodd araith bwerus cyn perfformio’r gân ‘Hawl i Fyw’ yn ddigyfeiliant – gan gyfeirio’n deimladwy at bobl Gaza ac at hawliau dynol. Gorffennodd gyda’r anthem eiconig ‘Yma o Hyd’, gan godi’r to a’n calon.

Diolch i’n Noddwyr, Staff a Phobl Ifanc
Rydym yn hynod ddiolchgar i’n noddwyr hael – Dewis Architecture (penseiri) a Richard Hall and Partners (cyfreithwyr) – am sicrhau mynediad am ddim i bawb, yn cynnwys brecwast a chinio. Diolch i’w cefnogaeth, roedd modd i’r gynhadledd fod yn hygyrch, cynhwysol a llawn gwerth.
Diolch i Aelodau’r Bwrdd Rheoli GISDA am eu cefnogaeth barhaus, ac i bob aelod o staff GISDA am eu gwaith caled a'u trefniadaeth broffesiynol. Yn fwy na dim, diolch i’r bobl ifanc a fu’n wirfoddoli drwy gydol y diwrnod – roedd eu hangerdd, cryfder a’u presenoldeb yn ganolog i lwyddiant y digwyddiad.
Rydym wedi cael adborth cadarnhaol dros ben – gan ddweud bod y gynhadledd wedi bod yn brofiad arbennig, gyda chyfleoedd gwych i rwydweithio, dysgu, a dathlu profiadau pobl ifanc sy’n elwa ar wasanaethau GISDA.
Mae GISDA yn elusen sy’n cael ei harwain gan bobl ifanc, i bobl ifanc – ac roedd y gynhadledd hon yn brawf clir o'r egwyddor honno. Roedd yn fraint ac yn anrhydedd i gynnal digwyddiad mor ystyrlon a phwerus.
