Ymgyrch Nadolig 2025

24/11/2025

Dee0dc5d 58d0 4612 8ab4 3b30fd3c67d7

🎄 #BreuddwydioAm… y Nadolig hwn gyda GISDA 

Tra bod llawer yn breuddwydio am anrhegion, mae rhai pobl ifanc yn breuddwydio am le diogel, bwyd cynnes a dyfodol gwell.

Mae GISDA yn cefnogi pobl ifanc sy’n profi digartrefedd neu sy’n wynebu heriau yn eu bywydau bob dydd. Y Nadolig hwn, rydym yn apelio am eich cefnogaeth i helpu ni i wireddu eu breuddwydion – breuddwydion o obaith, diogelwch a chyfle.

💚 Fydd eich rhodd, boed yn fawr neu’n fach, yn wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Bydd eich cefnogaeth yn helpu ni i ddarparu llety, bwyd cynnes, a chefnogaeth un-i-un i bobl ifanc sydd wir angen ein help y Nadolig hwn.

Ymunwch â ni i freuddwydio am ddyfodol disglair i bobl ifanc Gwynedd. Gyda’n gilydd, gallwn wneud i’w breuddwydion ddod yn wir - Rhoddwch Heddiw!